Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 12 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.31 - 15.45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Suzy Davies AC William Powell AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 CLA473 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2014
2.2 CLA474 - Rheoliadau'r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy'n Gyfan Gwbl neu'n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014
2.3 CLA475 - Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014
2.4 CLA476 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014
2.5 CLA478 - Gorchymyn Cynllun Iawndal y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014
2.6 CLA479 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014
2.7 CLA480 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015
Nododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ac roedd yn fodlon â hwy. O ran CLA479, cytunodd y cynghorydd cyfreithiol i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA477 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014
Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
3.2 CLA485 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywodraeth i edrych ar sut yr ymdrinnir ag offerynnau yn y dyfodol.
4 Adroddiad Monitro Sybsidiaredd - mis Mai i fis Rhagfyr 2014
Nododd y pwyllgor yr adroddiad ac roedd yn fodlon ag ef.
5 Papurau i’w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau. Mewn perthynas â'r llythyr gan y Gweinidog ar y Bil Cynllunio (Cymru), croesawodd yr Aelodau y wybodaeth fanwl yn amlinellu'r berthynas rhwng Bil Cynllunio (Cymru), Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Bil yr Amgylchedd (Cymru).
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.
6.1 Blaenraglen waith
6.2 Adroddiad Drafft ar y Bil Cynllunio (Cymru)